Amdanom ni
Mae Arts & Humanities Research Council yn rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU, sef sefydliad newydd sy’n dod â Chynghorau Ymchwil y DU, Innovate UK a Research England at ei gilydd er mwyn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl gan bob Cyngor ac er mwyn creu’r amgylchedd gorau posibl i ymchwil ac arloesi ffynnu ynddo. Y weledigaeth yw sicrhau bod y DU yn cadw ei safle byd-eang fel gwlad flaenllaw ym maes ymchwil ac arloesi.
Ymchwil ac Arloesedd y DU, corff cyhoeddus a ariennir gan gymorth grant gan lywodraeth y DU. Am fwy o wybodaeth ewch i www.ukri.org/about-us.
Gweledigaeth a strategaeth
Ein gweledigaeth yw cael cydnabyddiaeth fel arweinydd y byd yn datblygu ymchwil y celfyddydau a’r dyniaethau.
Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, mae gennym bedair nod strategol:
- Hyrwyddo a chefnogi creu ymchwil o safon fyd-eang yn y celfyddydau a’r dyniaethau.
- Hyrwyddo a chefnogi hyfforddiant ôl-radd o safon fyd-eang er mwyn paratoi graddedigion ar gyfer ymchwil neu yrfaoedd proffesiynol eraill.
- Cryfhau effaith ymchwil y celfyddydau a’r dyniaethau trwy annog ymchwilwyr i ledaenu a throsglwyddo gwybodaeth i gyd-destunau eraill lle mae’n gwneud gwahaniaeth.
- Codi proffil ymchwil y celfyddydau a’r dyniaethau a bod yn eiriolydd effeithiol ar gyfer ei arwyddocâd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd.
Ein strwythur llywodraethu
Cyngor AHRC – Mae’r AHRC yn cael ei lywodraethu gan ei Gyngor, sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol a rheolaeth ariannol.
Uwch Dîm Rheoli – Mae’r Uwch Dîm Rheoli yn gyfrifol am weithrediadau’r AHRC o ddydd i ddydd.erion yn ymwneud â chyflogau a materion eraill yn ymwneud â thâl ar gyfer uwch aelodau o’r staff.
Bwrdd Cynghori – Mae’r Bwrdd Cynghori datblygu ac yn argymell blaenoriaethau, rhaglenni, a mentrau eraill fydd yn cyflenwi strategaethau’r AHRC, ac yn monitro ac yn adrodd ar eu cynnydd.
Coleg Adolygu gan Gymheiriaid - Mae’r AHRC yn ei hanfod wedi ymrwymo i ymgeisio ac asesu cystadleuol trwy adolygu gan gymheiriaid. Mae aelodau’r Coleg Adolygu gan Gymheiriaid (PRC) yn ffurfio rhan allweddol o’r system hon, a gynlluniwyd i sicrhau bod adolygu gan gymheiriaid yn cael ei gynnal trwy roi’r sylw pennaf i degwch a thryloywder, ac i ofynion trylwyredd academaidd. Mae rheolaeth y PRC yn cael ei oruchwylio gan yr Uwch Dîm Rheoli.
Paneli Adolygu gan Gymheiriaid – Mae’r AHRC yn galw paneli nad ydynt yn rhai amser llawn o aelodau ei Goleg Adolygu gan Gymheiriaid. Mae’r paneli’n cyfarfod yn unswydd yn unol â gofynion y cynllun y maent yn darparu graddau a safleoedd terfynol ar ei gyfer.
Mwy o wybodaeth:
UK Shared Business Services (SBS) – Y Cynghorau Ymchwil sy’n berchen ar yr SSC ac mae’n darparu gwasanaethau amrywiol ar eu cyfer:
- Cyflenwi Gwasanaethau a Chanolfan Gyswllt
- Caffaeliad
- Cyllid
- Gweinyddu Grantiau
- Cyflogres
- Adnoddau Dynol
- Gwasanaethau Gwybodaeth
Os oes gennych ddiddordeb yn darparu eich gwasanaethau neu gynnyrch i’r AHRC yn unrhyw un o’r meysydd hyn, cysylltwch â’r SSC.
Polisïau, safonau a ffurflenni
Polisi Gwrth-lwgrwobrwyo – Mae’r AHRC wedi ymrwymo i ymarfer ymddygiad corfforaethol cyfrifol ac i gydymffurfio â phob cyfraith, rheoliad, a phob gofyniad arall sy’n llywodraethu’r ffordd y caiff ein gweithrediadau eu cynnal. Mae’r AHRC wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer twyll a llygredd yn cael eu lleihau i’r lefel risg isaf posibl.
Côd Ymarfer – Mae’r AHRC yn gweithredu Côd Ymarfer sydd wedi ei fwriadu fel canllaw ar gyfer pob aelod o’n Cyngor, pwyllgorau, y Coleg Adolygu gan Gymheiriaid a grwpiau cynghori eraill, ac sydd yn nodi’r ffordd yr ydym yn cynnal ein busnes.
Polisi Cwynion ac Apeliadau - Mae’r AHRC wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth hygyrch, ansawdd uchel, effeithlon a chywir wrth ryngweithio gyda’i/gyda’n cymuned.
Polisi Diogelu Data - Mae’r AHRC wedi ymrwymo i weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data ac i sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant a chefnogaeth briodol i gyflawni hyn.
Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Mae’r AHRC wedi ymrwymo i hybu cyfle cyfartal ac amrywiaeth. Mae’r polisi hwn yn amlinellu’r ymrwymiad hwnnw, sy’n cael ei ardystio a’i gefnogi gan ein Cyngor a’r Uwch Dîm Rheoli.
Cynllun Ymateb i Dwyll - Ni fydd yr AHRC yn derbyn unrhyw lefel o dwyll na llygredd; byddwn yn ymchwilio i unrhyw achos sy’n cael ei amau a chaiff ei drin yn briodol.
Polisi Rhyddid Gwybodaeth - Mae’r AHRC wedi ymrwymo i weithredu yn unol â deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac i sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant a chefnogaeth briodol i gyflawni hyn.
Fframwaith Adolygu gan Gymheiriaid – Mae’r Fframwaith hwn yn nodi’r hyn y bydd yr AHRC yn ei ddatgelu a’r hyn na fydd yn ei ddatgelu, yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, yn ymwneud â’r broses adolygu gan gymheiriaid.
Siarter Brenhinol - Mae Siarter Brenhinol yn ffordd o ymgorffori corff, sef ei newid o gasgliad o unigolion yn un endid cyfreithiol.
Saith egwyddor Bywyd Cyhoeddus - Mae’r AHRC wedi ymrwymo i ddilyn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus.
Polisi Twitter - Caiff cyfrif Twitter yr AHRC ei reoli gan ein Tîm Cyfathrebu. Os byddwch yn ein dilyn ar Twitter, gallwch ddisgwyl derbyn rhwng un a thair neges drydar y dydd.
Polisi a Gweithdrefnau Chwythu’r Chwiban - Mae’r AHRC wedi ymrwymo i gyflawni a chynnal y safonau uchaf yn ymwneud ag ymddygiad yn y gwaith, gwasanaeth i’r cyhoedd ac yn ei holl arferion gwaith a disgwylir i bob gweithiwr ymddwyn gydag uniondeb, bod yn ddiduedd ac yn onest.
Cynllun Iaith Gymraeg - Mae Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK) wedi paratoi Cynllun Iaith Gymraeg drafft yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ar y ffordd yr ydym ni, a eraill Cyngor Ymchwil y DU, yn bwriadu cynnal ein busnes
Ffurflenni
Asesiad Risg ar gyfer defnyddio Cerbyd Preifat (ODT) (ODT, 711KB) - Dylid llenwi’r ffurflen hon a’i dychwelyd i’r AHRC cyn defnyddio cerbyd preifat ar gyfer mater yn ymwneud â’r AHRC. Cliciwch y ddolen i lawrlwytho’r ffurflen: Asesiad Risg ar gyfer defnyddio Cerbyd Preifat (ODT) (ODT, 711KB).
Teithio a Chynhaliaeth - Ffurflen Hawlio Treuliau ar gyfer y rheiny nad ydynt yn Gyflogeion (Excel 44 KB) - Daw’r ffurflen hon gyda’r Polisi Teithio a Chynhaliaeth ar gyfer y rheiny nad ydynt yn Gyflogeion. Cliciwch y ddolen i lawrlwytho’r ffurflen: Ffurflen Hawlio Treuliau ar gyfer y rheiny nad ydynt yn Gyflogeion (ODS).
Teithio a Chynhaliaeth - Nodyn Cyfarwyddyd ar gyfer y rheiny nad ydynt yn Gyflogeion (ODT) - Daw’r nodyn cyfarwyddyd hwn gyda’r Polisi Teithio a Chynhaliaeth ar gyfer y rheiny nad ydynt yn Gyflogeion. Cliciwch ar y ddolen i lawrlwytho’r nodyn: Nodyn Cyfarwyddyd ar gyfer y rheiny nad ydynt yn Gyflogeion (ODT).
Teithio a Chynhaliaeth - Polisi ar gyfer y rheiny nad ydynt yn Gyflogeion (ODT) - Diben y polisi hwn yw sicrhau bod anghenion teithio a llety’r AHRC yn cael eu bodloni mewn ffordd gyson. Cliciwch y ddolen i lawrlwytho’r polisi: Polisi Teithio a Chynhaliaeth ar gyfer y rheiny nad ydynt yn Gyflogeion.
Adroddiadau, strategaeth, llywodraethu, cyhoeddiadau
Mae’r adran hon yn cynnwys:
- Adroddiad blynyddol a chyfrifon – manylion ein gweithgareddau, ein cyflawniadau a’n cyfrifon wedi eu harchwilio
- Strategaeth – hysbysu’r cyhoedd, staff, partneriaid a rhanddeiliaid eraill am ein blaenoriaethau, ein nodau corfforaethol, ein gwerthoedd, ein polisïau a’n hamcanion
- Llywodraethu – y ffordd yr ydym yn cael ein llywodraethu
- Adolygiadau ac adroddiadau – rydym yn cyhoeddi adroddiadau rhai o’n seminarau polisi a gweithgareddau eraill
- Cyhoeddiadau polisi cyhoeddus
- Polisïau a safonau – y ffordd yr ydym yn gweithredu
- Adroddiadau Effaith Economaidd – metrigau a gwybodaeth naratif ar agweddau ar ein perfformiad
- Archif – dogfennau’r gorffennol
Rhyddid Gwybodaeth
Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cais am wybodaeth gan yr AHRC yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae hefyd yn esbonio ein cynllun cyhoeddi.
Sut i wneud cais am wybodaeth
Ysgrifennwch atom yn disgrifio’r wybodaeth yr hoffech ei chael a rhoi enw cyswllt a chyfeiriad gohebu i ni (mae cyfeiriad e-bost yn ddigon). Gallwch ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol:
Information Services Manager
Arts and Humanities Research Council
Polaris House
North Star Avenue
Swindon SN2 1FL
Neu gallwch wneud cais am adolygiad ar e-bost yn: foi@ahrc.ukri.org
Yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae gennym ddyletswydd i ymateb i’ch cais a rhoi’r wybodaeth i chi, oni bai ei bod wedi ei chynnwys yn un o’r eithriadau (agor mewn ffenestr newydd), o fewn ugain diwrnod gwaith.
Adolygiadau a chwynion
Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb, gallwch ofyn am adolygiad trwy ysgrifennu at:
Associate Director of Resources
Arts and Humanities Research Council
Polaris House
North Star Avenue
Swindon SN2 1FL
Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich adolygiad, gallwch wneud cais i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n gorfodi ac yn goruchwylio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Cysylltwch â ni
Arts and Humanities Research Council (AHRC)
Polaris House
North Star Avenue
Swindon
SN2 1FL
Ebost: enquiries@ahrc.ukri.org
Ffôn: 01793 41 6000
Sut i ddod o hyd i ni – Cliciwch yma am fwy o wybodaeth, yn cynnwys map.